Let's Play Fair Open Letter

Julie Morgan AS
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru, 5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd, CF99 1NA

Annwyl Weinidog, 

Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae. Er hynny, ni all llawer o blant anabl fwynhau eu meysydd chwarae lleol gan nad yw’r offer nac amgylchedd wedi’i gynllunio ar eu gyfer. Dyna pam mae Scope yn galw ar Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cronfa Maes Chwarae Cynhwysol er mwyn ddatblygu meysydd chwarae hygyrch ar gyfer blant anabl.

Mae chwarae mor bwysig i ddatblygiad plentyn; mae'n hybu’r dychymyg ac yn helpu plant i wneud ffrindiau. Mae meysydd chwarae yn llefydd lle all plant bod eu hunan. Maent yn gyfrifol am ffurfio llawer o ein atgofion cynnar. 

Dychmygwch beidio â gallu mynd â'ch plentyn i'r maes chwarae. Dychmygwch weld eich plentyn yn colli allan ar y cyfle i wneud ffrindiau, ac ar y cyfle i gael hwyl fel plentyn gyda ffrindiau a pherthnasau. Dyma bywyd i lawer o deuluoedd gyda phlant anabl.  

Wrth i deuluoedd gyda phlant anabl wynebu’r cynydd mewn costau byw, mae’r angen am feysydd chwarae cynhwysol am ddim yn pwysicach nag erioed. Ond nid yw llawer o blant anabl yn gallu mwynhau eu meysydd chwarae lleol gan nad yw’r amgylchedd nac offer wedi’u cynllunio ar eu gyfer, gan eu gadael nhw a’u teuluoedd ar wahân. Dywedodd hanner y rhieni y gofynnwyd yn ein harolwg eu bod yn wynebu problemau hygyrchedd gyda’u maes chwarae lleol, a 28 y cant yn unig a ddywedodd eu bod yn teimlo’n rhan o’r gymuned yn y maes chwarae. 

Dylai pob plentyn gael mynediad cyfartal i feysydd chwarae, ac mae angen cymorth y Llywodraeth i sicrhau bod hynny’n digwydd. Dyna pam mae Scope yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Cronfa Maes Chwarae Cynhwysol Newydd gwerth £7 miliwn.

Bydd y gronfa hon yn cael ei defnyddio gan gynghorau i greu meysydd chwarae cynhwysol lle gall pob plentyn, anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl, chwarae a ffurfio atgofion sy’n para am oes.

Mae chwarae cynhwysol, pan fo plant anabl a phlant nad ydynt yn anabl yn chwarae gyda’i gilydd, yn cynnig cyfle i plant rhannu profiadau, gan alluogi plant i fod yn cyfartal ac i chwalu rhwystrau cymdeithasol.

Mae’r Cronfa Maes Chwarae Cynhwysol yn gyfle i’r Llywodraeth gydnabod bod bywyd i deuluoedd â phlant anabl yn llawer anoddach nag y mae angen. Bydd Cronfa Maes Chwarae Cynhwysol yn cefnogi pob plentyn i allu chwarae, archwilio a thyfu.

Yn gywir,

Mark Hodgkinson's signature

Mark Hodgkinson
Prif Weithredwr, Scope

Richard Kramer, CEO - Sense

Mark Hardy, Chair - The Association of Play Industries

Helen Griffiths, Chief Executive - Fields in Trust

Sue Wilkinson, CEO - Association for PE

Amanda Batten, CEO - Contact

Caroline Stevens, Chief Executive - National Autistic Society

Cheryl Ward, Chief Executive - Family Fund

Clare Kassa, Chief Executive - Sibs UK

Yvonne Brookes, Director - STAND North Wales